Arum maculatum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Alismatales |
Teulu: | Araceae |
Genws: | Arum |
Enw deuenwol | |
Arum maculatum Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
|
Planhigyn blodeuol ag un had-ddeilen ('monocotyledon) yw Pidyn y gog sy'n enw gwrywaidd. Mae'n rhywogaeth sy'n perthyn i'r teulu Araceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Arum maculatum a'r enw Saesneg yw Lords-and-ladies. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cala Mwnci, Cala'r Cethlydd, Cala'r Gethlydd, Cala'r Mynach, Calwain Cala'r Gethlydd, Dail Robin, Lili'r Pasg, Pig y Gog a Phregethwr yn y Pulpud.
Mae gan y dail sbotiau piws, sy'n ymddangos yn y gwanwyn. Yna daw'r blodau ar brocar y bonyn a elwir yn 'sbadics'. O amgylch y procar porffor yma ceir deilen warchodol werdd olau, fel mantell. Cuddir y blodau oddi fewn.
Uwch ben y blodau ceir blewiach mewn cylch, er mwyn maglu pryfaid, gan eu dal a'u treulio, yn enwedig y Psychoda phalaenoides.[1] are attracted to the spadix by its faecal odour and a temperature up to 15 degrees celsius warmer than the ambient temperature.[2] Wedi eu dal, o dan y cylch blew, arllwysir paill arnynt cyn eu gollwng yn rhydd, er mwyn peillio planhigion eraill.
Mae'r casgliad byw mwyaf o'r teulu hwn yn cael ei gadw yn Missouri Botanical Gardens.